Home | About Leighton | Rhondda map | Rhondda links | Advice surgeries | Get in touch | Cymraeg

Leighton's Updates

Leighton
    follow me on Twitter

    06 August, 2008

    Ar y Maes




    I enjoyed the CHC debate today with Dafydd Iwan on the Maes, and was able to outline how regeneration strategy will support the Welsh Language. There has been good coverage overall on the BBC principally.




    The Archbishop of Wales, Barry Morgan, was in the chair.

    My full speech follows. I am too tired to translate it into English tonight:



    Mae’n anodd I wahanu polisi Blaid Lafur o’r polisi Clymblaid. R’o’n I’n
    Dirpwy Gweinidog dros Tai ar ol yr etholiad diwethaf – am saith wythnos.

    Pan on i’n Weinidog dros Dai, cyn y Clymblaid, dwi’n cofio ymateb
    I ddadl Plaid Cymru ar y pwnc Tai Fforddiadwy. Dwedais i

    gallwn ni weld consensws graddol ar faterion tai

    Esboniais I yn y dadl bod y Llwyodraeth yn

    - Cefnogi mwy o fuddsoddiad i helpu tuag at ddarparu chew mil a hanner (6,500) o dai
    fforddiadwy newydd ychwanegol
    - annog pobl i fod yn berchen ar eu cartrefi, er enghraifft trwy’r cynllun cymorth
    prynu (Homebuy),
    - cefnogi rhoi pwer i awdurdodau lleol yr hawl i wneud cais i Weinidogion i ohirio’r yr hawl i
    brynu mewn ardaloedd lle mae angen dybryd am
    dai
    - wedi ofyn I syddogion I ddiwygio’r drefn reoleiddio ar gyfer cymdeithasau tai, ac ar gyfer ehangu eu rôl hwy mewn datblygu cymunedol
    - cefnogu’r datblygiad ymddiriedolaethau tir cymunedol
    - defnyddio safon ansawdd tai Cymru (WHQS yn Saesneg) fel cyfle allweddol i sbardun adfywio mewn nifer o’n cymunedau tlotaf.

    Hefyd, ar y pwnc dai haf, neu ail gartrefi, dwedais I mod I’n deall bod problem gyda ni mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, ac r’o’n i’n hapus i edrych eto ar y pwnc, ac ar unrhyw syniadau ymarferol. Dwedais I bod rhaid i ni gael consensws newydd ar y mater, a sicrhau bod Cymru yn parhau yn wlad sy’n croesawu ymwelwyr a mewnfudwyr.

    Ar yr un pryd, wrth gwrs, cymerais i ran yn y trafodaethau arweiniodd y polisi Tai yn y ddogfen
    Cymru’n Un, gyda Jane Hutt, Jocelyn Davies, Adam Price a phawb.

    Heddiw, fel Dirprwy weinidog dros Adfywio, fi’n trafod y sefyllfa gyda Jocelyn yn aml.


    Fel Llywodraeth, ein huchelgais ni yw i weld pawb yn gallu fforddio cartref parchus i’w berchnogi neu i’w renti.

    Byddwn hefyd yn rhoi cefnogaeth ariannol i bobl ifanc na allannwh fforddio prynu eu cartref cyntaf yn eu cymuned eu hunain.

    Ein nod yw gwella mynediad at dai, cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy, sicrhau tai addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain (21ain) a lleihau digartrefedd yn ein holl gymunedau.

    Dyn ni ar fin dechrau’r rhaglen fwyaf i wella cartrefi pobl ers dros trigain mlynedd. Os
    wnawn ni hyn yn y modd cywir, gallwn adfywio rhai o’n cymunedau sydd o dan yr
    anfantais mwyaf.

    Mae’n rhaid i bob awdurdod lleol yn sicrhau bod pob ty cymdeithasol yn cyrraedd safonnau uchel newydd – sef Safon Ansawdd Tai Cymru.

    Bydd angen rhyw dair (£3) biliwn o bunnoedd i gyrraedd y safon a bydd fuddsoddiad yn parhau ar ol dwy fil a deuddeg (2012).

    Nid yw dros hanner tenantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru yn gweithio. Felly mae anelu y buddsoddiad mewn tai at yr ardaloedd hynny lle mae’r diweithdra mwyaf yn gyfle i adfywio cymunedau a chreu swyddi tymor hir lleol.

    Er mwyn cyflawni y safon hwn ledled De Cymru, bydd angen hyd at dwy fil saith cant (2700) o weithwyr ychwanegol dros gyfnod o ddeng mlynedd. Bydd hyn yn cynnwys labrwyr cyffredinol, plastrwyr, sgaffaldwyr, ac adeiladwyr.

    I gyrraedd y safonn newydd yn Ne Cymru yn unig bydd rhaid buddsoddi rhwng saith can (£700) miliwn ac un pwynt pedwar biliwn a (£1.4) o bunoedd.

    Yr wythnos diwethaf, ron’ni’n lansio Cartrefi RCT, sy’n gymdeithas dai gydweithredol guda deg mil gartrefi. Mae’n nhw’n buddsoddi cant saith-deg miliwn (£170) o bunnoedd dros y pum mlynedd nesaf – pum mil cegin newydd, pedair mil ystafell molchi newydd ac yn y blaen. Ac mae’n nhw’n creu un cant saithdeg o swyddi newydd yn y gymdeaithas neu gyda chrontractwyr a chyflenwr neu mewn busnesi lleol. Mae’n nwh’n creu prentisiaid hefyd. Dyma
    adfywio ymarferol.

    Heddiw, dwi’n cyhoeddi cynllun i ddefnyddio rhaglen adfywio i gefnogi’r iaith mewn ardaloedd strategol. Dyn ni’n lansio prosiectau peilot sef

    · pedwar can mil o bunnoedd (£400,ooo) yn Nant Gwrtheyrn i gynorthwyo’r gwaith o
    ddatblygu ymhellach y prif gyflesuter preswyl ar gyfer dysgu Cymraeg, gan
    gyfrannu rhagor i’r gwaith ehangach o adfywio Pen Llyn
    · Pen Llyn hefyd – cefnogi prosiect adfywio sy’n cysylltu’r gwaith o ddarparu cyfleoedd gwaith a thai fforddiadwy gan weithio ar y cyd a chymdeithas dai leol, sef Cymdeithas Tai
    Eryri·
    Blaenau Ffestiniog – gweithio gyda chymunedau lleol i ddatblygu ymhellach y modd unigryw y gall yr iaith gyfrannu i’r gwaith o genogi gobeithion y gymuned o ran datblygu
    economaidd.
    · Peblig, yng Nghaernarfon, defnyddio broceriaid i annog pobl leol i ysteried eu sgiliau yn y Gymraeg yn gaffaeliad wrth chwilio am waith.

    Fel dwedodd Carwyn Jones dydd LLun, mae’n rhaid i ni roi hyder i bobol i ddnefnyddio’r iaith
    Dyn ni’n cyhoeddi hefyd pecyn ariannu am dair blynedd pellach ar gyfer prosiectau gwledig
    Cymunedau yn Gyntaf gan gynnwys tri mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn bennaf,
    sef Pen Llyn, pentrefi ucheldir Tregaron, a Bro Ddyfi.

    Dwi’n cofio brawddeg o’r saithdegau: Tai a Gwaith sy’n Cadw’r Iaith. Dyma beth dyn ni’n
    gwneud.

    I benthyg brawddeg o ymgyrch Bill Clinton yn 1992 : yr economi yw e, twpsyn.

    Barry, dwi’n gwybod dy fod ti eisiau gweld y prosiect datganoli yn symud ymlaen. Dwi wedi wastad cefnogi pwerau deddfwriaethol. Dwi’n credu hefyd bod rhaid i ni drosglwyddo pwer i’r cymunedau. Mae dwy enghraifft gyda ni yn y maes adfywio – y cronfa canlyniadau newydd yn y
    rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, ble mae’r cymunedau yn gallu arwain newid yn y
    gwasanaethau cyhoeddus, a’r mudiad cymdeithas tai gydweithredol, fel Cartrefi
    RCT a Bron Afon yn Nhorfaen. Dyma ddatganoli dwbl: mwy o bwerau i’r Cynulliad, a
    mwy o bwerau i’n Cymunedau. Dyma’r ffordd ymlaen.

    No comments:

    Rhondda TV
    The Labour Party

    Recent comments

    Archives...

    Categories...

    Promoted by Leighton Andrews AM, National Assembly for Wales, Cardiff CF99 1NA.

    Author's editorial policy: This blog does not publish anonymous comments, unless they are really witty and I like them. If you have something to say, then have the courage of your convictions and use your name or an identifiable alias. Even then I reserve the right not to publish comments that are malicious, defamatory, stupid, pointlessly cynical or boring. Any of the statements or comments made above should be regarded as personal and not necessarily those of the National Assembly for Wales, any constituent part or connected body.