Dyfodol S4C
I ddechrau, mae’n bwysig cydnabod bod gyda ni yng Nghymru system gwasanaeth darlledu cyhoeddus cryf. System gryfach na llefydd eraill yn y Deyrnas Unedig. Pam? Oherwydd yr iaith gymraeg. Mae dau darlledwr cyhoeddus gyda ni.
Gawn ni ddadl go iawn ar bwnc S4C? Does neb yn mo’yn cau S4C. Dwi’n nabod neb sy mo’yn torri cyllideb S4C. Neb sy mo’yn torri oriau S4C.
Ond mae sialens mawr ar gyfer S4C yn y byd digidol. Sialens i wneud rhaglenni y mai pobol yn mo’yn gwylio. Mae’n annodd gwneud hynny. Mae sialens anodd ar gyfer y BBC, hefyd.
Dyna pam dw’I wedi dweud bod rhaid I S4C a’r BBC ymuno. Mae’r BBC yn gwneud holl raglenni newyddion S4C, a hanner cant y cant o’I raglenni materion cyfoes. Mae’r BBC yn gwneud y rhaglen mwya poblogaidd, Pobol y Cwm. Mae’r BBC yn darlledu Radio Cymru, a Cymru’r Byd ar y we hefyd. Dyma gyfle I ddatblygu S4C mewn hinsawdd creadigol yn y BBC.
Mae’n bosib cadw cyllideb S4C, brand S4C, a sianel S4C hefyd. Mae’n syml iawn. Mae angen I ni gael cytundeb rhwng yr Adran Diwylliant a Chyfrwng yn Llundain a’r BBC, I wario y gyllideb ar gyfer rhaglenni Cymraeg I gyd ar sianel S4C.
Dyma gyfle i greu darlledwr gwasanaeth cyhoeddus cryf iawn yng Nghymru. Byddai BBC Cymru gyda S4C, yn gallu sefyll yn gryf yn erbyn y BBC yn ganolog. Dw’I ddim yn mo’yn colli’r cyfle.
Ond, ar y llaw arall, dw’I ddim yn teimlo’n gryf iawn ar y pwynt. Beth sy’n bwysig yw S4C a’r BBC yn cydweithio.
For English:
The future of S4C
It is important to acknowledge that we have a strong public broadcasting system in Wales. It is a stronger system than in other areas of the United Kingdom, because of the Welsh language. We have two public-service broadcasters.
Can we have a proper debate on S4C? No-one wants to close S4C down, and I do not know anyone who wants to cut its budget or its hours. However, S4C faces a great challenge in the digital world. It is a challenge to make programmes that people want to watch, and that is a difficult thing to do. It is a difficult challenge for the BBC too. That is why I have said that S4C and the BBC must merge.
The BBC makes all of S4C’s news programmes, and 50 per cent of its current affairs programmes. The BBC makes S4C’s most popular programme—Pobol y Cwm—and it broadcasts Radio Cymru, as well as Cymru’r Byd on the internet.
This is an opportunity to develop S4C in a creative climate in the BBC. It is possible to retain S4C’s budget, brand, and channel. It is simple—we need an agreement between the Department for Culture, Media and Sport in London and the BBC to spend the entire budget for Welsh programmes on the S4C channel. This is an opportunity to create a strong public-service broadcaster in Wales. BBC Wales and S4C would be able to stand firmly against the BBC centrally. I do not want to miss the opportunity.
However, on the other hand, I do not feel strongly on the point. What is important is that S4C and the BBC work together.
Mae fy araith i yn y Cynulliad, 2 Mawrth.
My speech in the Assembly, 2 March.
3 comments:
Dwi wir ddim yn gwybod beth fyddai orau ar gyfer y sianel. Efallai ar gyfer parhad S4C fel sianel/brand, cael ei gymeryd drosodd gan y BBC fyddai'r opsiwn orau. Ond o ran dyfodol darlledu yn Gymraeg byddai'n creu monopoli llwyr gan y BBC sydd ddim yn beth iach yn fy marn i.
Mae gwefan Cymru'r Byd yn wych ac anodd iawn fyddai dychmygu unrhyw wefan arall annibynol neu wedi ei ariannu (funded) yn cystadlu gyda fe, ond gyda'r BBC yn gyfrifiol am yr unig wasanaeth radio Cymraeg yn barod, hoffwn i ddim iddyn nhw fod yn gyfrifol a yr unig sianel teledu hefyd. Mae Radio Cymru ac S4C yn cael eu beirniadu'n hallt gan siaradwyr Cymraeg am ansawdd a pherthnasedd eu rhaglenni, ond i fod yn deg mae un gorsaf/sianel yn gorfod plesio pawb ar gyllid bychan i'w gymharu a gorsafoedd sianeli eraill, sy'n dasg amhosib. Byddai cael y BBC yn gyfrifol am y ddau yn gamgymeriad yn fy marn i.
Digon teg Rhys. Mae'r ddadl yn anodd ac mae'n bwysig i wrando ar farn pawb.
Post a Comment